header Cymraeg English

Mae'r toriad o bapur sydd cyferbyn yn arwydd o'r
gystadleuaeth rhwng y brodyr Linton a Jimmy Michael

   
BEICIO PROFFESIYNOL. MICHAEL YN ERBYN Y BRODYR LINTON,
HER AGORED

Rydyn ni wedi derbyn y llythyr canlynol oddi wrth Jimmy Michael mewn perthynas â'r cwestiwn pwy yw pencampwr beicio pellter canol y byd:-

"O weld fod Tom Linton yn ymffrostio ym mhapurau'r De ei fod ef yn gallu fy maeddu i, a'i fod e'n fodlon beicio yn fy erbyn i unrhyw amser, a bod ei frawd Arthur yn 'bencampwr y byd', rydw i'n barod i feicio yn erbyn unrhyw un ohonyn nhw, a rhoi iddyn nhw flaen o ddwy lap mewn 100 cilomedr, tair mewn 100 milltir, neu bedair lap mewn chwe awr am £100 bob ochr a'r taliadau mynediad i gyd, mewn ras i'w chynnal ar drac Buffalo neu Winter ym Mharis. Rydw i wedi rhoi £20 ar gadw gyda Sporting Life, felly'r cyfan sy rhaid iddyn nhw ei wneud yw rhoi'r un ernes a bydd popeth yn barod ar unwaith, neu roi'r gorau i gegan.
"Rydw i'n fodlon cystadlu yn erbyn unrhyw un arall yn y byd ar yr un amodau, gan mai fi yw pencampwr pellter canol y byd nid A Linton. Yr ydwyf, ac ati .....

"Jimmy Michael"
19 Avenue Phillipe le Boucher,
Neuilly,
Paris

 

Michael V. The Lintons
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf