header Cymraeg English
Cwmdâr  

Cyn i'r glofeydd agor a phentref Cwmdâr gael ei sefydlu yn y 1850au, ardal wledig o ffermydd a thyddynnod gwasgaredig oedd Cwmdâr. Mae nifer o'r ffermydd hyn yno o hyd, gan gynnwys Bwllfa, Nantmelin a Thir Evan Bach Traws (Canolfan Farchogaeth Greenmeadow bellach). Fodd bynnag, diflannodd eraill yn sgil twf y diwydiant glo a gorchuddiwyd fferm Troedrhiwllech gan wastraff o Bwll Powell yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Chwith: Fferm Bwllfa Dâr, tua 1870

Fferm Bwllfa Dâr, tua 1870
Yn y llun uchod/ar y dde o ddechrau'r ugeinfed ganrif, saif David Edwards gyda balchder wrth stepen drws ei siop yn 19 Bwllfa Road. Ym 1920 disgrifiwyd y siop fel siop groser, warws dillad ac esgidiau. Yno hefyd roedd Swyddfa Bost y pentref lle'r oedd Islwyn Edwards yn Is-Bostfeistr.
Wrth i'r glofeydd ddechrau agor yn y cwm, adeiladwyd tai ar gyfer y gweithwyr. Adeiladwyd y tai cyntaf yng Nghwmdâr ar ochrau deheuol a gorllewinol y pentref yn agos at y glofeydd. Adeiladwyd James Street, David Street a Dare Road rhwng 1852 ac 1859. Datblygwyd cymuned fechan Pithead yn ystod y cyfnod hwn hefyd, ar ochr arall y cwm gerllaw Glofa Merthyr Dare. Adeiladwyd gweddill y pentref ddechrau'r ugeinfed ganrif. Adeiladwyd y tai hyn i'r gogledd-ddwyrain o'r pentref blaenorol, ac roedd y tir a ddefnyddiwyd yn rhan o Gomin Hirwaun yn wreiddiol. Ni fyddai'r tir hwn wedi bod ar gael ar gyfer adeiladu pan adeiladwyd y tai gwreiddiol. Adeiladwyd llawer o'r tai hyn gan Glybiau Adeiladu lleol, sef cymdeithasau a ffurfiwyd i adeiladu nifer penodol o dai ar gyfer eu haelodau.
Yn y llun uchod/ar y dde o ddechrau'r ugeinfed ganrif, saif David Edwards gyda balchder wrth stepen drws ei siop yn 19 Bwllfa Road. Ym 1920 disgrifiwyd y siop fel siop groser, warws dillad ac esgidiau. Yno hefyd roedd Swyddfa Bost y pentref lle'r oedd Islwyn Edwards yn Is-Bostfeistr.
Mae amrywiaeth eang o amwynderau wedi gwasanaethu Cwmdâr yn ystod ei hanes. Y tair prif dafarn oedd: y Collier's Arms (1853 - 1931) wrth y gyffordd rhwng James Street a Dare Road, y Castle Inn (1866 - 1968) ar Sgwâr Cwmdâr a'r Tonglwydfawr, a adeiladwyd ym 1853 a'r unig dafarn sydd ar agor yng Nghwmdâr hyd heddiw. Mae nifer o siopau wedi gwasanaethu trigolion Cwmdâr ar hyd y blynyddoedd. Yng Nghyfeirlyfr Masnach Kelly 1920, nodir bod 20 o sefydliadau manwerthu yng Nghwmdâr. Er bod nifer o'r rhain yn siopau bach mewn ystafelloedd ffrynt cartrefi, sefydlwyd nifer o siopau mawr hefyd, gan gynnwys Groser David Edwards yn 19 Bwllfa Road, fferyllydd, dwy siop gigydd a dwy siop trin gwallt.

Sefydlwyd llawer o addoldai yng Nghwmdâr hefyd. Agorodd Capel Bedyddwyr Nebo ym 1858, ac adeiladwyd capel mwy ar yr un safle ym 1868 er mwyn ymdopi â'r nifer cynyddol o addolwyr yn ôl pob tebyg. Dymchwelwyd y capel hwn ym 1977. Sefydlwyd Capel Elim gan yr Annibynwyr ym 1867. Adeiladwyd Capel Gobaith ym 1875, ac fe'i hail-adeiladwyd ym 1907 . Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, aeth yr Eglwys yng Nghymru ati i adeiladu nifer o eglwysi ar hyd a lled Cwm Cynon. Agorodd Eglwys Sant Luc yng Nghwmdâr fis Mehefin 1887, a chynhaliwyd gorymdaith yn cynnwys yr Esgob, clerigwyr a chôr er mwyn dathlu'r achlysur. Cenhadaeth Cwmdâr oedd yr addoldy diwethaf i'w adeiladu yng Nghwmdâr ym 1920.

Capel Gobaith tua 1900 Gobaith Chapel c1900

Capel Gobaith tua 1900 Gobaith Chapel c1900
Diwydiant Glo Cwmdâr  

Mae'r cofnod cyntaf o gloddio glo ar raddfa fawr yng Nghwmdâr yn dyddio'n ôl i 1851, er ei bod yn debygol iawn bod y gwaith eisoes wedi dechrau ychydig cyn y dyddiad hwnnw. Agorwyd pedair glofa fawr yng Nghwmdâr, yn eithaf agos at ei gilydd, sef:

Glofa Cwmdâr Yn fwy adnabyddus fel Pwll Powell, agorwyd y lofa hon gan Thomas Powell, a chloddiwyd y glo cyntaf ym 1856. Roedd Thomas Powell yn un o'r perchnogion glofeydd cynnar mwyaf llwyddiannus, a phan fu farw ym 1863 roedd yn berchen ar bron i 20 glofa. Ar ôl ei farwolaeth, prynwyd Pwll Powell gan y Powell Duffryn Steam Coal Co., a'r cwmni hwn oedd perchnogion y lofa nes ei gwerthu i Bwllfa and Merthyr Dare Steam Collieries Co. Ltd. ym 1906. Ym 1935 daeth y lofa dan reolaeth Powell Duffryn unwaith eto, ac erbyn hynny, y cwmni hwn oedd cwmni glo cyfun mwyaf y byd. Gydol y 1920au a'r 1930au caeodd ac ail-agorodd y lofa yn gyson wrth iddi ddioddef yn sgil y dirwasgiad yn y diwydiant glo, fel gweddill maes glo'r De. Caeodd y lofa am byth fis Mai 1936.
Glofa Merthyr Dare: Ar ôl cael ei hagor gan David Williams (Alaw Goch) cyn 1851, o holl Lofeydd Dwfn Cwmdâr, hon oedd yr un fwyaf byrhoedlog. Gwerthodd David Williams y lofa i syndicâd dan arweiniad Rees Hopkin Rhys ym 1861, ac fe'i gwerthwyd eto i John Brogden o Lofa Bwllfa yn yr 1870au. Caeodd y lofa am y tro olaf ym 1884.
Roedd y slip talu ar y chwith, dyddiedig 21 Mai 1910, ar gyfer unigolyn o'r enw David Davies a gyflogwyd fel cludwr yng Nglofa Rhif 2 Bwllfa (Nantmelin). Mae'r slip pythefnos yn dangos iddo weithio 8 diwrnod am 4 swllt ac 1 3/4 ceiniog y dydd. Ar ôl derbyn ei ganran (bonws), enillodd gyfanswm o £2/4/2d.

 

Roedd y slip talu ar y chwith, dyddiedig 21 Mai 1910, ar gyfer unigolyn o'r enw David Davies a gyflogwyd fel cludwr yng Nglofa Rhif 2 Bwllfa (Nantmelin). Mae'r slip pythefnos yn dangos iddo weithio 8 diwrnod am 4 swllt ac 1 3/4 ceiniog y dydd. Ar ôl derbyn ei ganran (bonws), enillodd gyfanswm o £2/4/2d.
Symudwch y llygoden dros y llun uchod/ar y dde i weld yr un olygfa heddiw
Glofa Nantmelin: Hon oedd y lofa olaf i'w hagor yng Nghwmdâr. Dechreuodd Mordecai Jones o Aberhonddu weithio ar y safle ym 1860, a chodwyd y glo cyntaf o'r Wyth ï en Bedair Troedfedd fis Ebrill 1861. Yn dilyn marwolaeth Jones ym 1880, rheolwyd y gwaith gan y Nantmelin Colliery Company, ac ym 1891 unodd y cwmni hwn â'r Aberdare Merthyr Collieries Co. Ltd. Ym 1896 daeth y lofa dan reolaeth y Bwllfa Company, a oedd yn prysur ehangu, a'r perchnogion preifat olaf oedd y Powell Duffryn Company a ddaeth yn berchnogion holl weithfeydd Bwllfa ym 1935. Ym 1949 dechreuodd Bwrdd Glo Prydain weithio ar gynllun i gysylltu Cwmdâr a'r Rhondda Fach. Arweiniodd hyn at gau Nantmelin ym 1957, pan gloddiwyd yr holl lo ym Maerdy.

Symudwch y llygoden dros y llun uchod/ar y dde i weld yr un olygfa heddiw
Glofa Bwllfa Dare: Agorwyd Glofa Bwllfa Dare, neu Lofa Bwllfa, ym mhen uchaf Cwmdâr o dan gysgod y Darren gan Samuel Thomas a Thomas Joseph ddechrau'r 1850au. Fel llawer o lofeydd eraill, bu gan Bwllfa Dare nifer o berchnogion yn ystod ei hoes. Fodd bynnag, mae hanes Glofa Bwllfa yn cael ei gysylltu'n agos â dau deulu: teulu Brogden ac yn fwy felly teulu Llewellyn. Mae cysylltiad teulu Brogden â Bwllfa yn dyddio'n ôl i'r 1870au pan brynodd John Brogden & Sons y lofa gan y Bwllfa Colliery Co. Ltd. Cadwodd teulu Brogden ei gysylltiadau â'r lofa tan farwolaeth mab ifancaf John Brogden, G W H Brogden, ym 1892. Wedi hynny, Rees Llewellyn a'i fab D R Llewellyn a ddaeth i'r amlwg. Roedd Rees Llewellyn wedi bod yn rheolwr Bwllfa ers 1877, ac erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, ef oedd Cadeirydd y cwmni a reolai'r lofa. O dan ei arweiniad ef, cafodd y lofa a'i gweithgareddau cysylltiedig eu cyfnod mwyaf llewyrchus erioed. Erbyn 1906 roedd y Bwllfa and Merthyr Dare Steam Coal Collieries (1891) Ltd. yn berchen ar holl lofeydd Cwmdâr. Ar ôl profi ei allu wrth lwyddo gyda'r Lefelau Windber, daeth D R Llewellyn yn gadeirydd y cwmni yn dilyn marwolaeth ei dad ym 1919. Cadwodd ei afael ar yr awenau nes i'r cwmni gael ei werthu i Powell Duffryn ym 1935. Roedd Rees a D R Llewellyn yn amlwg iawn ym mywyd cyhoeddus ardal Aberdâr, gan wasanaethu ar Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr ymysg cyrff eraill. Yn dilyn gwladoli'r diwydiant ym 1947 a'r cynllun i gysylltu glofeydd Bwllfa a Maerdy, roedd angen ailddatblygu safle Bwllfa, ac adeiladwyd ffrâm pen concrid newydd a thy weindio. Fodd bynnag, ym 1977 daeth y gwaith yn y Bwllfa i ben am y tro olaf, ac erbyn 1991 roedd y safle wedi'i glirio'n gyfan gwbl.

Cwmdâr

Cliciwch ar y llun i gael mwy o wybodaeth am Draphont Dâr

Gwasanaethwyd glofeydd Cwmdâr gan ddwy linell rheilffordd a reolwyd gan gwmn ï au gwahanol. Y llinell gyntaf i gyrraedd y glofeydd oedd Cangen Dâr ac Aman o'r Vale of Neath Railway, a ddaeth yn fwy enwog fel y Great Western Railway ar ôl i'r cwmni hwnnw brynu'r Vale of Neath ym 1865. Cyrhaeddodd y rheilffordd hon Lofa Bwllfa ym 1857. Cyrhaeddodd y rheilffordd hon Gwmdâr o Gyffordd Gelli Tarw ger Llwydcoed ar ôl croesi Traphont Gamlyn a Thraphont Dâr, dwy enghraifft wych o draphontydd pren a gynlluniwyd gan Isambard Kingdom Brunel. Adeiladwyd yr ail linell i Gwmdâr gan Taff Vale Railway, a dilynodd lwybr ger yr Afon Dâr o gyffordd ger Aberdâr. Agorwyd y llinell hon ym 1866. Mae modd olrhain llwybr y ddwy reilffordd hyn hyd heddiw, gan iddynt gael eu haddasu fel ffordd a llwybr pan ail-ddatblygwyd Cwmdâr er mwyn creu Parc Gwledig Cwmdâr.

Parc Gwledig Cwmdâr - Agorwyd y Parc yn swyddogol fis Rhagfyr 1973. Ym 1971 dechreuwyd ar y gwaith o adennill y tir a oedd wedi'i greithio'n ddifrifol gan dros ganrif o fwyngloddio. Roedd y cynllun yn cynnwys lefelu tomennydd glo, ailgyfeirio'r Afon Dâr a chreu dau lyn gyda rhaeadr yn llifo i'r llyn isaf. Agorwyd y ganolfan ymwelwyr ym 1985, sy'n cynnwys 15 ystafell ar gyfer gwesteion. Mae yna faes pebyll a pharc carafannau bach ger y ganolfan ymwelwyr hefyd.
Parc Gwledig Cwmdâr
© 2018 Llyfrgeloedd Rhondda Cynon Taf